Côr Gobaith ac eraill yn galw ar y Prif Weinidog i gefnogi cadoediad yn Gaza / Côr Gobaith and others call on the First Minister to support a ceasefire in Gaza

6 Tachwedd 2023: heddiw, anfonwyd llythyr at Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi’i arwyddo gan 47 o fudiadau a grwpiau ar draws Cymru, yn galw arno i gefnogi cadoediad yn Gaza a heddwch a chyfiawnder i holl bobl Israel a Phalesteina. Mae’r mudiadau yn cynnwys Cymdeithas yr Iaith, Cyngor Mwslimaidd Cymru, Cymdeithas y Cymod – a Chôr Gobaith – ac maen nhw’n erfyn ar y Llywodraeth i gefnogi cadoediad, ynghyd â hawliau i Balestiniaid a chymorth dyngarol i Lain Gaza.

Daw’r llythyr dau ddiwrnod cyn i Aelodau o’r Senedd bleidleisio ar gynnig gan Blaid Cymru dros gadoediad. Hyd yn hyn, mae’r Prif Weinidog wedi datgan cefnogaeth i saib dyngarol, mesur mae’r mudiadau yn y llythyr yn ei alw’n “annigonol”. Mae’r mudiadau’n galw ar y Prif Weinidog a holl Aelodau o’r Senedd i bleidleisio o blaid cadoediad llawn yn lle hynny.

6 November 2023: today, a letter was sent to the First Minister, Mark Drakeford, signed by 47 organisations and groups across Wales, calling on him to support a ceasefire in Gaza and peace and justice for all the people of Israel and Palestine. The organisations include Cymdeithas yr Iaith, the Muslim Council of Wales, Cymdeithas y Cymod – and Côr Gobaith – and they are urging the Welsh Government to support a ceasefire, along with rights for Palestinians and humanitarian aid for the Gaza Strip.

The letter comes two days before the Members of the Senedd vote on a proposal by Plaid Cymru for a ceasefire. So far, the Prime Minister has declared support for a humanitarian pause, a measure the organisations in the letter call “inadequate”. The organisations are calling on the Prime Minister and all Members of the Senedd to vote in favour of a full ceasefire instead.