Uno cymunedau mewn cân / Uniting communities in song

24 Chwefror 2024: roedd y côr wedi trefnu diwrnod o weithgareddau heddiw i roi cyfle i ddysgu mwy am ddiwylliant y gymuned ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac i wneud hynny trwy gân. Roedd hwn yn brosiect cydweithredol gyda Chôr Un Byd Oasis – côr ffoaduriaid o Gaerdydd. Cynhaliwyd gweithdy canu yn y prynhawn gan ddysguContinue reading “Uno cymunedau mewn cân / Uniting communities in song”

Aberystwyth – tref heddwch a chyfiawnder / Aberystwyth – a town for peace and justice

Nos Fawrth, 5 Rhagfyr: fel rhan o wylnos wythnosol ar Sgwâr Owain Glyndwr, darllenwyd llythyr y mae Cyngor Tref Aberystwyth yn bwriadu ei anfon at arweinwyr llywodraethau’r Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau yn dilyn pasio cynnig ganddynt i fynnu bod llywodraethau’r ddwy wlad yn cefnogi cadoediad parhaol yn ddi-oed yn Gaza. Mae gan Aberystwyth hanesContinue reading “Aberystwyth – tref heddwch a chyfiawnder / Aberystwyth – a town for peace and justice”

Sul y Cofio / Remembrance Sunday

Dydd Sul, 12 Tachwedd 2023: yn dilyn yr orymdaith o Lyfrgell y Dre i’r castell, gosododd aelodau’r côr dorchau pabis gwyn ar y Gofeb Rhyfel fel rhan o’r seremoni cofio swyddogol – un oddi wrth y côr ei hun, a rhai o Rwydwaith Heddwch a Chyfiawnder Aberystwyth, Aberaid, Women in Black a thorch pabis piwsContinue reading “Sul y Cofio / Remembrance Sunday”

Côr Gobaith ac eraill yn galw ar y Prif Weinidog i gefnogi cadoediad yn Gaza / Côr Gobaith and others call on the First Minister to support a ceasefire in Gaza

6 Tachwedd 2023: heddiw, anfonwyd llythyr at Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi’i arwyddo gan 47 o fudiadau a grwpiau ar draws Cymru, yn galw arno i gefnogi cadoediad yn Gaza a heddwch a chyfiawnder i holl bobl Israel a Phalesteina. Mae’r mudiadau yn cynnwys Cymdeithas yr Iaith, Cyngor Mwslimaidd Cymru, Cymdeithas y Cymod –Continue reading “Côr Gobaith ac eraill yn galw ar y Prif Weinidog i gefnogi cadoediad yn Gaza / Côr Gobaith and others call on the First Minister to support a ceasefire in Gaza”

Digwyddiad i godi arian i MAP / Fundraising event for MAP

Dydd Sadwrn, 28 Hydref 2023: bu’r côr yn rhan o ddiwrnod o adloniant amrywiol yn y Skinners Arms, Machynlleth i godi arian i MAP, Medical Aid for Palestinians. Dyma elusen sy’n agos iawn at galon y côr, ac mae eu gwaith yn bwysicach nag erioed yn wyneb yr erchyllterau sy’n digwydd ym Mhalesteina ar hynContinue reading “Digwyddiad i godi arian i MAP / Fundraising event for MAP”

Wythnos o Weithredu Byd-eang dros Heddwch yn Wcráin / Week of Globalization for Peace in Ukraine

30 Medi-8 Hydref 2023: yn dilyn yr Uwchgynhadledd Ryngwladol dros Heddwch yn yr Wcráin (ISPU), fe alwodd y Biwro Heddwch Rhyngwladol ar sefydliadau cymdeithas sifil ym mhob gwlad i ymuno ag Wythnos o Weithredu Byd-eang dros Heddwch yn Wcráin. Y nod cyffredin oedd galw am gadoediad a thrafodaethau heddwch er mwyn dod â’r rhyfel iContinue reading “Wythnos o Weithredu Byd-eang dros Heddwch yn Wcráin / Week of Globalization for Peace in Ukraine”